Fel canolfan ymchwil sy’n canolbwyntio’n bennaf ar allgau cymdeithasol, mae gennym ddiddordeb mewn iechyd troseddwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi’u carcharu gan y wladwriaeth.
Mae gennym nifer o brojectau sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o iechyd carcharorion, gan gynnwys cynlluniau i wella eu hiechyd corfforol, gwerthuso ymdrechion i leihau’r defnydd o sylweddau ymhlith troseddwyr, a chynllun ar gyfer myfyrwyr meddygaeth sy’n gorfod gwneud gwerthusiad.