Welcome to The Centre for Mental Health and Society
Mae’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas (CFMHAS) yn ganolfan ymchwil a arweinir gan wyddonydd cymdeithasol a seiciatrydd. Ein safbwynt cyffredinol yw na ellir deall salwch meddwl yn iawn heb gyfeirio at y cyd-destun cymdeithasol, emosiynol a chorfforol y mae’n codi ynddo. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn yr elfennau cymdeithasol sy’n sail i salwch meddwl. Rydym yn ymwneud yn bennaf â phroblemau sy’n effeithio ar bobl ddifreintiedig a phobl a gaiff eu gwthio i’r cyrion ledled y byd.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymchwil a all gael effaith ar fywydau pobl, sy’n golygu bod gennym gymaint o ddiddordeb mewn mesurau iechyd cyhoeddus ag ymyrraeth ar lefel unigol. Mae llawer o’n gwaith yn cynnwys dulliau cymysg (ansoddol a meintiol) i roi sylw i broblemau cymhleth.