Sefydlwyd CFMHAS yn 2012 gan Catherine Robinson a Rob Poole, gyda chymorth grant gan gronfeydd elusennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydym wedi ehangu’n gyflym ers hynny. CFMHAS ddatblygodd y South Asia Self Harm Initiative (SASHI), a gyllidir gan UKRI/GCRF. Fe’i harweinir gan Catherine Robinson fel Prif Ymchwilydd. Mae’r Athro Robinson wedi symud i Brifysgol Manceinion lle mae’n Gyfarwyddwyr uned ymchwil a gyllidir gan NIHR. Rob Poole sy’n arwain elfen Prifysgol Bangor o SASHI. Mae Catherine Robinson parhau i ymwneud yn agos â CFMHAS.
Mae CFMHAS yn canolbwyntio ar ymchwil sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwella lles meddyliol y cyhoedd yn gyffredinol neu wella gofal iechyd meddwl. Rydym yn ymchwilio i broblemau cymhleth y gellir ymdrin â hwy’n fwy effeithiol drwy ddefnyddio cyfuniad o ddulliau ansoddol a meintiol.
Mae ein diddordebau’n cynnwys:
- Meddyginiaeth opioid rhagnodedig a poen cronig
- Gofal cymdeithasol, gofalwyr, asesiadau cymdeithasol a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd
- Salwch meddwl difrifol
- Moeseg, hawliau dynol a theori gymdeithasol, Tystiolaeth sy’n cyd-destunoli
- Cyd-destunoli tystiolaeth
- Ymchwil Iechyd Troseddwyr
- Iechyd digidol