Ar y rhan fwyaf o’r tudalennau ar ein gwefannau swyddogol, rydym yn casglu gwybodaeth log rhyngwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Gwnawn hyn er mwyn dod i wybod nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o wefannau. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon mewn ffordd na ellir adnabod unrhyw un. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ddarganfod pwy yw’r rhai sy’n ymweld â’n gwefan.
Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gesglir o’r safle hwn gydag unrhyw wybodaeth bersonol o unrhyw ffynhonnell er mwyn adnabod rhywun. Os ydym am gasglu gwybodaeth bersonol drwy ein gwefan o’r hyn y gellir adnabod rhywun, byddwn yn dweud wrthych am hyn. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol, ac yn egluro’r hyn y bwriadwn ei wneud gyda hi. Enghraifft o hyn fyddai lle’r ydym yn defnyddio ffurflen i’ch galluogi i wneud cais am brosbectws neu wybodaeth arall o’r fath.
Defnydd o gwcis gan wefan
Ffeiliau testun bychan yw cwcis sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ydych yn ymweld â nhw. Cânt eu defnyddio’n helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i berchnogion y safle. Drwy ddefnyddio ein gwefan/gwefannau, rydych yn cytuno y gallwn roi cwcis ar eich dyfais. Os nad ydych yn dymuno i ni gadw unrhyw gwcis yn ystod eich ymweliad, edrychwch ar adran ‘gwrthod ac analluogi cwcis drwy osodiadau eich porwr’ y dudalen hon a’r cysylltiadau i gwcis penodol y gellir eu gwrthod. Sylwch, fodd bynnag, y gallai hyn gael effaith sylweddol ar eich profiad.
Cwcis ‘Google Analytics’
WRydym yn defnyddio Google Analytics i helpu i ddadansoddi’r defnydd o’n gwefan. Mae’r teclyn dadansoddi hwn yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth safonol log ar y we, a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr mewn ffurf ddienw. Mae’r wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o wefan Bangor (yn cynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei drosglwyddo i Google. Defnyddir y wybodaeth hon wedyn i werthuso defnydd ymwelwyr o’r wefan, ac i gasglu adroddiadau ystadegol am weithgarwch gwefannau i’r Brifysgol.
I gael mwy o wybodaeth am Google Analytics, ewch i: www.google.co.uk/analytics.
Os ydych yn dewis optio allan o gael eich dilyn gan Google Analytics ar draws bob gwefan, ewch i: tools.google.com/dlpage/gaoptout.