Sioned Davies
Rwyf wedi gweithio i Brifysgol Bangor er 1991 mewn amryw o swyddi gweinyddol gyda’r Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth bryd hynny, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac yn awr yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Ymunais â CFMHAS fel Gweinyddwr Rhaglen ar gyfer project Menter Hunan-niweidio De Asia (SASHI) yn 2017. Caiff y project pedair blynedd hwn ei ariannu gan yr MRC GCRF. Mae’n broject ar y cyd rhwng sefydliadau yn Ne Asia a Phrydain, sy’n ceisio helpu i gael ymatebion effeithiol i hunan-niwed bwriadol a hunan-laddiad yn Ne Asia drwy adeiladu seilwaith ac arbenigedd ymchwil yn India a Phacistan. Bydd hyn yn caniatáu pob gwlad i adeiladu corff o dystiolaeth i hwyluso datblygiad ymyriadau effeithiol a diwylliannol berthnasol, yn gymdeithasol a meddygol.