Rob Poole
Rwy’n seiciatrydd academaidd, ond bûm yn glinigydd llawn-amser am y rhan fwyaf o’m gyrfa. Bûm mewn swyddi ymgynghorol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lerpwl a Gogledd Cymru am 21 mlynedd cyn derbyn fy mhenodiad academaidd cyntaf o bwys yn 2009. Rwyf yn fy swydd bresennol ers 2012.
Cefais fy hyfforddi yn St George’s Hospital, Llundain ac yn Rhydychen.
O 1988 tan 2004 bûm yn gweithio mewn rhan ddifreintiedig o ganol Lerpwl. Cymerais ran amlwg gyda datblygu gwasanaethau megis y Tîm Cyswllt Cyfiawnder Troseddol a’r Tîm Estyn Allan i’r Digartref. Gweithiais gyda phrojectau iechyd meddwl anstatudol i ddatblygu gwell gwasanaethau i gymunedau Du a Tsieineaidd.
Yn 2004, symudais i swydd seiciatryddol gymunedol gyda’r GIG mewn ardal wledig o Ogledd-ddwyrain Cymru.
Ym maes seiciatreg gyswllt y mae fy swydd glinigol bresennol.
Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar sgiliau clinigol a materion o bwys clinigol sy’n effeithio ar bobl sy’n ddifreintiedig ac ar yr ymylon.
Yn 2009 dechreuais gydweithio mewn ymchwil gyda’r Athro Catherine Robinson a arweiniodd at sefydlu’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn 2012. Symudodd Catherine i Brifysgol Manceinion yn 2018, ac mae perthynas gref wedi datblygu rhwng CFMHAS a’i huned ymchwil newydd.
Rwyf wedi ysgrifennu dau lyfr ar sgiliau clinigol ar y cyd â Robert Higgo ac maent wedi cael cydnabyddiaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cyhoeddwyd ail argraffiad o’n llyfr ar gyfweld seiciatrig gan Cambridge University Press yn 2017.
Ysgrifennais Mental Illness and Poverty ar y cyd â Robert Higgo a Catherine Robinson. Fe’i cyhoeddwyd gan Cambridge University Press yn 2014.
Mae Catherine Robinson a minnau wedi bod yn gweithio ar hunan-niweidio a hunanladdiad gyda chydweithwyr yn Mysuru yn India ers rhai blynyddoedd. Yn 2017, arweiniodd y gwaith hwn at grant o £4.5 miliwn gan UKRI-GCRF i gefnogi Menter Hunan-niweidio De Asia (South Asia Self Harm Initiative – SASHI). Mae hwn yn gynllun ar y cyd gyda chydweithwyr yn ne Asia yn ogystal â Phrifysgolion Manceinion a Rhydychen.
Cefais Wobr Cyflawniad Oes gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn 2017.
Yn 2019 cefais wahodd i ymuno â bwrdd prosiect yr Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Hunanladdiad a Diogelwch mewn Iechyd Meddwl.
Penodiadau
Professor of Social Psychiatry, School of Health Sciences, Bangor University. July 2012 –
Honorary Consultant Psychiatrist, Betsi Cadwaladr University Health Board, Wrexham Maelor Hospital. June 2009 –
Co-Director, Centre for Mental Health and Society, Bangor University 2012 –
Co-Principle Investigator, National Centre for Mental Health, Wales 2017 –
Yn flaenorol
Director and Specialist Adviser, Invited Review Service, Royal College of Psychiatrists, June 2013 – 2018
Honorary Research Lead, National Centre for Mental Health, Wales, 2015 – 2017
Chair, Executive Committee, Royal College of Psychiatrists in Wales, 2012 – 2016
Vice-President, Royal College of Psychiatrists, November 2015 – July 2016
Professor of Mental Health, Glyndŵr University, Wrexham. June 2009 – June 2012
Consultant General Adult Psychiatrist, North East Wales NHS Trust and Honorary Senior Lecturer in Psychological Medicine, Cardiff University, 2004 – 2009
Consultant General Adult Psychiatrist, Mersey Care NHS Trust, Liverpool and Honorary Clinical Lecturer in Psychiatry, Liverpool University, 1988 – 2004
Goruchwyliaeth
Emily Bebbington, PhD
John Bailey, PhD
Kim Barnett, PhD
Mesurau eraill o barch
Life Time achievement Award, November 2017
Cyllid Ymchwil
Development of a self-harm registry for North Wales. 2024. £35k, (Emily Bebbingon, Anne Krayer, Catherine Robinson)
International Science Partnerships Fund (ISPF) Institutional Support Grant. 2024. £10k
Preventing suicide in men in Wales: review of evidence. Public Health Wales. (£40,000) 2023-2024 Principle Investigator
UKRI-GCRF to support the South Asia Self Harm Initiative (SASHI). 2017. £4.5m
Improving assessment and treatment of mental disorder after Deliberate Self-Harm in South India Tropical Health Education Trust (£68,258) 2014. Principle Investigator
Development of faculty, strengthening of research capability in Mysore British Council (£20,341) 2014-2015. Co-Principle Investigator