Mae gennym bortffolio cynyddol o ymchwil atal hunan-niwed a hunanladdiad yn y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas. Mae ffocws mawr o’r gwaith wedi bod yn Ne Asia. Mae cydweithrediad agos rhwng academyddion clinigol yn Mysore, India, a’r Ganolfan wedi bod yn mynd rhagddo ers dros 15 mlynedd. Yn dilyn nodi’r angen am well data gwyliadwriaeth hunan-niwed, enillodd y cydweithrediad hwn grant GCRF MRC gwerth £4.5 miliwn ar gyfer Menter Hunan-niwed De Asia (SASHI) (2019-2024) http://sashi.bangor.ac.uk/ . Y Prif Ymchwilydd yw’r Athro Catherine Robinson, a Phrif Ymchwilydd Prifysgol Bangor yw’r Athro Rob Poole. Mae’r project yn unigryw yn ei ffocws ar feithrin gallu ymchwil ar gyfer gwyliadwriaeth hunan-niweidio yn y Deyrnas Unedig a De Asia trwy ddod ag academyddion ac ymarferwyr o feysydd seiciatreg, meddygaeth frys, iechyd y cyhoedd a llawfeddygaeth ynghyd. Mae’r cydweithrediad yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Rhydychen yn y Deyrnas Unedig; Coleg Meddygol a Sefydliad Ymchwil Mysore, a Phrifysgol JSS, Mysore, yn India; a Phrifysgol Aga Khan, Karachi, Pacistan. Mae’r project wedi arwain at sefydlu cofrestr hunan-niwed mewn dau ysbyty yn Mysore, India. Mae cofrestr hunan-niwed hefyd wedi’i sefydlu mewn un ysbyty yn Karachi, Pacistan. Mae SASHI wedi galluogi arloesiadau methodolegol mewn ymchwil cofrestrfa, ac archwiliad ansoddol o ddealltwriaeth gweithwyr proffesiynol o atal hunan-niwed a hunanladdiad. Disgwyliwn gynhyrchu llawlyfr yn manylu ar yr hyn a ddysgwyd o sefydlu’r cofrestrfeydd yn y dyfodol agos.
Mae’r Athro Poole a’r Athro Robinson yn olygyddion llyfr sydd ar y gweill gyda Gwasg Prifysgol Caergrawnt o’r enw “Preventing Suicide – an evidence-based approach”. Mae’r llyfr hwn yn dod ag arbenigwyr byd-eang mewn atal hunanladdiad ynghyd i gynhyrchu crynodeb hygyrch ar atal hunanladdiad a hunan-niwed rhyngwladol a fydd o ddiddordeb i academyddion ac ymarferwyr. Mae Dr Bebbington wedi cyfrannu pennod i’r llyfr hwn sy’n archwilio’r rhyngwyneb rhwng hunan-niweidio a mathau eraill o drais, yr anawsterau cynhenid wrth wahaniaethu rhyngddynt, y rhagflaenwyr cyffredin a’r angen am ddull ataliol sy’n groes i’r llif. Mae gwahaniaethu bwriad anafiadau llosgi’n arbennig o heriol, ac mae portffolio Dr Bebbington o ymchwil gwyliadwriaeth llosgiadau’n rhan sylweddol o’r ymchwil atal hunan-niwed a hunanladdiad a gwblhawyd yn y Ganolfan.
Mae gennym hefyd bortffolio o ymchwil i atal hunanladdiad a hunan-niwed sy’n canolbwyntio ar y Deyrnas Unedig. Mae Dr Bebbington a Dr Krayer yn arwain y project gwerthuso gwasanaeth hunan-niweidio a thrais i’r gofrestrfa gofal brys (SaVER), sydd wedi’i ariannu gan Grant Arloesedd ac Effaith Prifysgol Bangor (Awst 2024 – Gorffennaf 2025). Mae’r project SaVER yn uno academyddion ym Mhrifysgol Bangor o’r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas, a’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Manceinion; yn ogystal ag ymarferwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (meddygaeth frys, iechyd y cyhoedd, ac iechyd meddwl); Iechyd Cyhoeddus Cymru; a Bwrdd Gweithredol y GIG. Nod y project yw deall defnyddioldeb systemau presennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n casglu data am hunan-niweidio a mathau eraill o drais, a sut y gellid gwella’r rhain i weithredu cofrestr hunan-niweidio a thrais. Mae ffrydiau gwaith yn cynnwys mapio proses o’r llwybrau y mae cleifion yn eu defnyddio i gael gofal brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; dadansoddiad meintiol o ddata presennol a gasglwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gleifion sy’n cyflwyno hunan-niweidio a mathau eraill o drais; a chynnal cyfweliadau ansoddol i ddeall anghenion rhanddeiliaid (clinigol a thrydydd sector) a phrofiadau o ddefnyddio data hunan-niweidio a thrais. Comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y Ganolfan yn ddiweddar i gwblhau adolygiad rhychwantu o atal hunanladdiad ymhlith dynion, sy’n cael ei arwain gan yr Athro Poole a Dr Nafees.
Cyhoeddiadau perthnasol:
Bebbington E, Kakola M, Majgi SM, Krishna M, Poole R, Robinson C. Exploring misclassification of injury intent: A burn register study. Burns. 2024 Sep; DOI: 10.1016/j.burns.2024.05.010
Nyakutsikwa B, Taylor P, Hawton K, Poole R, Weerasinghe M, Dissanayake K et al. Financial stress amongst people who self-harm in Sri Lanka. Archives of Suicide Research. 2024 Sept 5
Bebbington E, Kakola M, Nagaraj S, Guruswamy S, McPhillips R, Majgi SM, et al. Development of an electronic burns register: Digitisation of routinely collected hospital data for global burns surveillance. Burns. 2024 Mar; DOI: 10.1016/j.burns.2023.08.007
Bebbington E, Ramesh P, McPhillips R, Bibi F, Khan M, Kakola M, et al. Terminology and methods used to differentiate injury intent of hospital burn patients in South Asia: Results from a systematic scoping review. Burns. 2024 Mar; DOI: 10.1016/j.burns.2023.10.008
Krayer A, Kulhari S, Sharma V, Robinson C. Pathways to Suicide among Police in Rajasthan: Perceptions and Experiences of Police Personnel. International Journal of Environmental Research and Public Health. 2023 Jan 18;20(3):1812. doi: 10.3390/ijerph20031812
Bebbington E, Ramesh P, Kakola M, McPhillips R, Bibi F, Hanif A, et al. Terminology and methods used to differentiate injury intent of hospital burn patients in South Asia: A systematic scoping review protocol. Systematic Reviews. 2023 Aug; DOI: 10.1186/s13643-023-02317-y
Bebbington E, Miles J, Peck M, Singer Y, Dunn K, Young A. Exploring the similarities and differences of variables collected by burn registers globally: Protocol for a data dictionary review study. BMJ Open. 2023 Feb; DOI: 10.1136/bmjopen-2022-066512
Bebbington E, Poole R, Kumar SP, Krayer A, Krishna M, Taylor P, et al. Establishing self-harm registers: The role of process mapping to improve quality of surveillance data globally. Int J Environ Res Public Health. 2023 Feb; DOI: 10.3390/ijerph20032647
Ramesh P, Taylor PJ, Mcphillips R, Ramanathan R, Robinson C. A scoping review of gender differences in suicide in India. Frontiers in Psychiatry. 2022 Apr 19.
Krishna M, Majgi SM, Kumar SP, Rajendra R, Heggere N, Poole R et al. A hospital-based self-harm register in Mysore, South India: Is follow-up of survivors feasible in low and middle income countries? International Journal Of Community Medicine And Public Health. 2021 Nov 1;8(11):5258-5262. Epub 2021 Oct 27. doi: 10.18203/2394-6040.ijcmph20214092
McPhillips R, Nafees S, Elahi A, Batool S, Krishna M, Krayer A et al. Knowledge, attitudes and experiences of self-harm and suicide in low-income and middle-income countries: protocol for a systematic review. BMJ Open. 2021 Jun 1. doi: 10.1136/bmjopen-2020-041645
Poole R, Robinson C. Self-Harm and Suicide: Beyond Good Intentions. University and College Counselling . 2019 May;7(2).
Rajendra R, Tiptur Nagaraj MK, Majgi S, Heggere N, Robinson C, Poole R. A feasibility study to establish a Deliberate Self-harm Register in a state hospital in southern India. British Journal of Medical Practitioners. 2015 Mar;8(1):a807.
Krishna M, Rajendra R, Majgi SM, Heggere N, Parimoo S, Robinson C et al. Severity of suicidal intent, method and behaviour antecedent to an act of self-harm: a cross sectional study of survivors of self-harm referred to a tertiary hospital in Mysore, south India. Asian Journal of Psychiatry. 2014 Dec;12:134-139. doi: 10.1016/j.ajp.2014.09.002