Mae Emily Peckham wedi cyfrannu at gyngor i Lywodraeth Cymru ar roi’r gorau i ysmygu a rheoli pwysau iach ymysg pobl sy’n dioddef o salwch meddwl difrifol. Darparodd John Carden sylwadau fel arbenigwr clinigol a adolygodd ddrafftiau ar gyfer y ddogfen gwerthuso tystiolaeth: Adolygiad gwerthuso tystiolaeth HTWHTW evidence appraisal review. Offer asesu sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau (DIALOG+) i wella’r driniaeth a roddir i bobl â seicosis a sgitsoffrenia o fewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd’. Roedd hwn yn adolygiad gwerthuso tystiolaeth a gynhaliwyd gan Dechnoleg Iechyd Cymru ar DIALOG+. Offeryn asesu cod agored rhad ac am ddim i’w ddefnyddio yw DIALOG+ a weinyddir trwy ap gwe. Mae DIALOG+ yn cael ei lywio gan egwyddorion therapi sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau (SFT), sy’n galluogi pobl sy’n derbyn gofal i raddio eu boddhad ag wyth maes bywyd a thair agwedd ar driniaeth ar raddfa saith pwynt mewn cydweithrediad â’u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Roedd Peter Lepping yn ymwneud ag ysgrifennu canllawiau cenedlaethol ar anhwylder rhithdybiol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyda Chymdeithas Dermatolegwyr Prydain, a gyhoeddwyd yn 2022. Rwyf ar hyn o bryd yn ymwneud â chynhyrchu canllawiau clinigol yr Almaen ar gyfer seicodermatoleg, gan arwain ar anhwylder rhithdybiol. Mae Heidi Hales yn rhan o grŵp ffocws clinigol ar gyfer asesiad anghenion Iechyd a Lles SCH ar gyfer Cartref Plant Diogel yn Llundain.
Cyd-Destunoli Tystiolaeth
Mae Rob Poole wedi cyflwyno tystiolaeth i Lywodraeth Cymru ac i awdurdodau lleol ers blynyddoedd lawer. Yn fwyaf diweddar, bu’n rhan o’r Western Bay Drugs Commission. Mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar bynciau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.