• Skip to main content

Centre for Mental Health and Society

  • English
  • Cymraeg
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltiadau defnyddiol
  • Proffiliau
    • Aelodau
  • Ymchwil
    • Prosiectau Tra’n aros
    • Prosiectau a Gwblhawyd
    • Cyhoeddiadau
  • Blog
  • Cysylltiadau
  • English
  • Cymraeg

Aelod, CFMHAS

Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol

PhD

Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor
View Staff Profile

z.jorjoranshushtari@bangor.ac.uk

03000 847086

Zahra Jorjoran Shushtari

Mae fy niddordebau ymchwil yn cwmpasu Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd, rhwydweithiau cymdeithasol ac iechyd, anghydraddoldeb iechyd, a gwasanaethau iechyd a gofal. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn ymddygiadau risg iechyd, megis ymddygiadau risg STI/HIV, defnyddio cyffuriau, ymddygiad ysmygu, ac ymyriadau i newid ymddygiadau risg.

Rwy’n meddu ar PhD mewn Gwyddorau Iechyd – Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd o Brifysgol Gwyddorau Lles Cymdeithasol ac Adsefydlu (USWR) yn Tehran. Yn ystod fy PhD, cefais gyfle i ymweld â Phrifysgol Groningen fel ysgolhaig gwadd am hanner blwyddyn i weithio ar fy nhraethawd PhD o dan oruchwyliaeth yr Athro Tom Snijders.  Ers graddio, rwyf wedi bod yn gweithio yn y Ganolfan Ymchwil Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd yn USWR rhwng 2018 a 2023. Yn ystod fy amser yno, rwyf wedi cydweithio ar sawl project ymchwil, ac yn bwysicach fyth, rwyf wedi sicrhau pum grant ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol fel prif ymchwilydd neu gyd-prif ymchwilydd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Ymchwil Feddygol (NIMAD), UNAIDS, ac USWR. Fi oedd y prif ymchwilydd ar gyfer astudiaeth rhwydwaith cymdeithasol i asesu dichonoldeb a derbynioldeb profion HIV ar rwydweithiau cymdeithasol mewn merched risg uchel. Yn ystod y pandemig COVID-19, fi oedd y prif ymchwilydd mewn astudiaeth dull cymysg ynghylch penderfynyddion cymdeithasol ymlyniad at ganllawiau ataliol COVID-19. Yn ogystal, dyfarnwyd grant ymchwil i mi gan UNAIDS i ddatblygu model cynhwysfawr ar gyfer gwasanaethau cefnogi HIV ymysg pobl ifanc sydd wedi’u heintio â HIV neu yr effeithir arnynt gan HIV.

Ar hyn o bryd, mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar benderfynyddion cymdeithasol anhwylderau iechyd meddwl ym Mhrifysgol Bangor. O dan oruchwyliaeth yr Athro Rob Poole a’r Athro Peter Huxley, rydym yn bwriadu defnyddio dull newydd o astudio effaith amddifadedd cymdogaeth ar anhwylderau iechyd meddwl yng Nghymru, a nodi’r mecanweithiau y mae amddifadedd yn y gymdogaeth yn effeithio ar anhwylderau iechyd meddwl ymhlith poblogaeth Cymru.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad llafar o bapur, teitl: Feasibility and Acceptability of Social Network based HIV testing Among Female Sex Workers in Tehran.  Cynhadledd INSNA Sunbelt.  Mehefin 2024

Bangor University
GIG Cymru/NHS Wales

Telerau Defnyddio | Polisi ar gwcis | © 2025 Centre for Mental Health and Society
Website by Hammond Design