Trys Burke
Ar ôl cwblhau gradd mewn chwaraeon, iechyd, ac addysg gorfforol, a TAR mewn addysg awyr agored a thechnoleg gwybodaeth ym Mhrifysgol Bangor, dechreuais addysgu mewn canolfan addysg awyr agored breswyl lleol. Penderfynais yn ddiweddarach i newid cyfeiriad a throi fy mryd at addysgu oedolion, a threuliais yr 20+ mlynedd nesaf yn addysgu hyfforddwyr, gan hyfforddi ac asesu hyfforddwyr ac arweinwyr ledled y Deyrnas Unedig, a thramor, ar ran British Canoeing a Canŵ Cymru. Rwyf wedi bod â diddordeb mewn gweithgarwch corfforol ac iechyd a lles erioed, ond ysgogwyd fy niddordeb mewn cefnogaeth gan gymheiriaid, a’r rôl y mae’n ei chwarae mewn iechyd meddwl a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, yn ystod fy astudiaethau MSc. Wrth archwilio lefelau o ymlyniad parhaus at weithgarwch corfforol ar ôl cwblhau rhaglen atgyfeirio ymarfer corff, cefais fy nharo gan y tristwch llethol a deimlwyd gan y cyfranogwyr oherwydd iddynt golli rhwydweithiau cymdeithasol newydd. Mae’n ymddangos mai’r rhwydweithiau cymdeithasol hyn oedd y glud a helpodd y cyfranogwyr i gadw at eu rhaglen gweithgarwch corfforol. Arweiniodd hyn i mi ystyried a fyddai rhaglenni’n elwa pe bai hyfforddwyr yn ymgorffori strategaeth ymadael i baratoi a chefnogi grwpiau o gymheiriaid pan fyddai’r rhaglen yn dod i ben. Byddai hyn yn helpu i gynnal y rhwydwaith o gefnogaeth gymdeithasol, ac o bosibl yn cynyddu’r siawns o weithgarwch corfforol parhaus, drwy’r grŵp o gymheiriaid. Gyda chymorth Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Gwybodaeth (KESS2) o Ewrop, llwyddais i wneud PhD ac archwilio’r syniad hwn ymhellach. Ynghyd â hyfforddwyr sy’n darparu gweithgareddau awyr agored o sefydliadau awyr agored a chlybiau cymunedol gwirfoddol lleol, cyd-gynllynwyd a datblygwyd ymyrraeth hyfforddi’r hyfforddwr. Nod yr ymyrraeth oedd creu rhaglen barhaus o weithgareddau awyr agored gyda chefnogaeth gan gymheiriaid a fyddai’n hyrwyddo lles holl aelodau’r grŵp, ac yn gwella gallu’r grŵp i ddod yn hunangynhaliol, i baratoi at pan fydd yr hyfforddwr yn tynnu’n ôl.
Penodiadau
Cynorthwyydd Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor
Arweinydd modiwl Therapi Awyr Agored ac Antur, Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, Prifysgol Bangor. Cyn hynny, roeddwn yn dysgu’r modiwlau dyfrsail ar y BSc mewn Gwyddorau Chwaraeon Antur




