Simon Gill
Rwyf wedi gweithio fel Fferyllydd ers imi cymhwyso yn 2001, gan dreulio’r wyth mlynedd gyntaf yn y sector fferylliaeth gymunedol cyn newid fy swydd i fod yn fferyllydd rheoli meddyginiaethau gofal sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 2009. Rwyf wedi byw a gweithio yng Ngogledd Cymru ar hyd fy oes. Yn fwy diweddar, fe wnes i ddatblygu ac ehangu fy swyddogaeth a dod yn ragnodwr annibynnol yn 2016, gyda diddordeb arbennig mewn rheoli poen. Arweiniodd y diddordeb hwn fi at aelodau’r tîm CFMHS ac rwyf wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil gyda hwy yn ymwneud â’r broses o ragnodi poenleddfwyr opioid dos uchel.