Sharon Hutchings
O dan arweiniad a goruchwyliaeth yr Athro Peter Huxley, Dr Anne Krayer a Dr John Carden, rwy’n gweithio tuag at PhD sy’n archwilio modelau cyfoes o ofal cymdeithasol rheng flaen i bobl sydd â salwch meddwl rheolaidd. Mae’r astudiaeth yn ymwneud â phobl sy’n profi episodau ailadroddol o salwch meddwl er mwyn deall yn well yr hyn y maent yn ei ystyried i fod yn effeithiol. Nod ail gydran yr ymchwil yw archwilio sut mae Gwaith Teg Cymru 2019 yn cefnogi staff gofal cymdeithasol rheng flaen i weithio mewn ffordd effeithiol a chefnogol i helpu pobl i gyflawni eu nodau. Bydd yr astudiaeth yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn gan ddefnyddio cyfweliadau ac arolygon gyda staff a defnyddwyr gwasanaeth, a bydd hefyd yn cynnwys gwaith wedi’i cyd-gynhyrchu.
Cefndir
O 1998 bûm yn gweithio ym maes addysg oedolion a chymuned ac addysg uwch nes ymuno â Phrifysgol Nottingham Trent yn llawn amser yn 2008. Fel cymdeithasegydd cyhoeddus bûm yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a sefydliadau nid-er-elw i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau/anghyfiawnder cymdeithasol a newid cymdeithasol mewn lleoliadau cymunedol a pholisi. Roedd y gwaith hwn yn cael ei gwmpasu gan faes eang cyfiawnder/anghyfiawnder cymdeithasol a newid cymdeithasol gan weithio gyda chymunedau sydd wedi’u hymyleiddio, a lle bo modd, gweithio gyda’r cymunedau hynny mewn ffyrdd cyfranogol. Mae diddordebau ymchwil penodol yn cynnwys ansicrwydd, gwaith a chyflogaeth, hawliau dynol, ymgysylltu â’r gymuned, cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio, niwed cymdeithasol ac ymagwedd strwythurol at iechyd meddwl a lles yn y gymuned. Ffurfiolwyd y diddordebau hyn o dan Grŵp Dyfodol Gwaith NTU a’r Ganolfan Polisi, Dinasyddiaeth a Chymdeithas ac roeddent wrth wraidd fy addysgu.
Dulliau Ymchwil
Rwy’n anelu at weithio mewn ffyrdd perthynol a chadarnhaol gyda phobl a chymunedau, a cheisio democrateiddio gwybodaeth wrth greu gwybodaeth a’r hyn a ddiffinnir fel gwybodaeth. Mae gweithio ar brojectau lluosog gyda chyhoeddwyr lluosog wedi hwyluso gwerthfawrogiad llawn o ymchwil, ac yn arbennig dulliau cyfranogol. Mae’r angen i fod yn gynhwysol, i wrthsefyll iaith ac arferion sy’n creu rhwystrau ac i gydnabod y gallu i ddysgu gyda ac oddi wrth yn greiddiol i fy ngwaith.




