• Skip to main content

Centre for Mental Health and Society

  • English
  • Cymraeg
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltiadau defnyddiol
  • Proffiliau
    • Aelodau
    • Aelodau Cyswllt
  • Ymchwil
    • Prosiectau Tra’n aros
    • Prosiectau a Gwblhawyd
    • Cyhoeddiadau
  • Blog
  • Cysylltiadau
  • English
  • Cymraeg

Aelod, CFMHAS

Professor of Mental Health Research

Prifysgol Bangor
View Staff Profile

p.huxley@bangor.ac.uk

01978 727 142/157

Peter Huxley

Mi wnes i raddio gyda gradd Cymdeithaseg o Brifysgol Reading yn 1968. Gweithiais wedyn fel Swyddog Lles Meddyliol ar gyfer Cheshire County Council yn Stalybridge. Mi wnes i gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol ym Mhrifysgol Manceinion. Mae gen i dros 40 mlynedd o brofiad ymarferol ac ymchwil. Roeddwn i hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth GIG (Mental Health Services Salford) ac yn rheolwr gwasanaethau cymdeithasol ym Manceinion o 1976-1984.

Rydw i wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol ym maes ymchwil, sy’n cynnwys y maes gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl. Fi oedd yr Athro cyntaf mewn Gwaith Cymdeithasol Seiciatrig ym Mhrydain, a’r gweithiwr cymdeithasol cyntaf i fod yn bennaeth adran academaidd seiciatreg ym Mhrydain ym Manceinion (School of Psychiatry and Behavioural Sciences). Fi oedd yr Athro cyntaf mewn Gwaith Cymdeithasol yn yr Institute of Psychiatry yn Llundain o 1999 tan 2006 pan wnes i adleoli i Cymru.

Rydw i wedi gweithio gyda gwahanol grwpiau, yn ogystal ag ymchwilio iddynt a chyhoeddi amdanynt. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys plant, pobl gydag anabledd dysgu, oedolion a phlant gyda phroblemau iechyd meddwl a phobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl a phobl hŷn sydd heb y cyfryw broblemau. Rydw i wedi hen arfer dod â safbwynt gofal cymdeithasol i osodiadau iechyd, ac mae fy sgiliau ymchwil meintiol yn fy ngalluogi i gloriannu bron pob dull ystadegol a chanlyniadau a adroddir mewn papurau ymchwil a cheisiadau am grantiau. Rydw i hefyd wedi hyfforddi mewn dulliau adolygu systematig (gwelwch yn ddiweddarach) ac mewn defnyddio dulliau ymchwil ansoddol a phecynnau fel Nvivo.

Rydw i’n darparu adolygu gan gydweithwyr arbenigol allanol ar gyfer ceisiadau am grantiau ymchwil i’r ESRC, ac wedi derbyn dau grant ESRC, y naill ar adfywio trefol ac iechyd meddwl, a’r llall ar gyfieithiad Tsieineaidd o’n mesur cynhwysiad cymdeithasol diweddaraf.

Rydw i’n adolygu papurau ymchwil academaidd ar gyfer Psychiatric Services, Social Psychiatry and Psychiatric Epidemiology, the British Journal of Psychiatry, Health and Social Care in the Community, the British Journal of Social Work, the Social Work Journal, Social Work and Social Science Review a nifer o gyfnodolion y gwasanaeth iechyd a pholisi.

Grants

Principal Investigator

  • SWISH (Social Work Intervention following Self-harm) NISCHR (WG) Social Care Research Fund. 2013-2015 £207,000.
  • DISSECT (Dementia: Improving Staff Stress and Satisfaction – Evaluation by Cluster Trial (co-app), £273K from NISCHR (WG). 2012-2015
  • SCOPE-C the development of a Chinese language version of the SCOPE for NGO services in Hong Kong, £125k from ESRC. 2012-2014

Co-Investigator

  • PRISMATIC (PI Helen Snooks) SDO grant £500,000. 2010-2014
  • DeCoDer (Debt Counselling for depression in primary care (£2m) PI Mark Gabbay, University of Liverpool. 2013-2017
  • PARTNERS2: development and pilot trial of primary care based collaborative care for people with serious mental illness (co-app), £1.9m NIHR England. PI Max Birchwood, Birmingham University (now Warwick). 2012-2017
  • SNA for modelling integrated social care service. PI A Orrel. Wales Government, £215,852. 01/10/16 – 30/09/18
  • SASHI South Asia Self Harm Research capability building. PI Catherine Robinson, MRC £1,565,107. 01/04/17 – 31/03/21
  • SASHI extension. PI Catherine Robinson, MRC £181,970. 01/10/17 – 30/09/21
  • National Centre for Mental Health (NCMH), PI Catherine Robinson, Wales Government 01/04/15 – 31/03/18
  • National Centre for Mental Health (NCMH), PI Catherine Robinson, Wales Government 01/04/18 – 31/03/20 £8761

People Supervised

Ana Cristina Atanes, PhD
Joseph Mcgregor-Harper, MSc

Other Measures of Esteem

For several years an Honorary Senior Research Fellow in the David Lam Institute for East-West Studies, Hong Kong Baptist University, Kowloon.

Bangor University
GIG Cymru/NHS Wales

Telerau Defnyddio | Polisi ar gwcis | © 2021 Centre for Mental Health and Society
Website by Hammond Design