Panagiotis Spanakis
Mae fy ngradd gyntaf mewn Seicoleg (2010 – Prifysgol Creta) ac rwyf hefyd yn meddu ar MSc mewn Seicopatholeg Glinigol a Datblygiadol (2014 – Prifysgol VU Amsterdam) yn ogystal â PhD mewn Seicoleg Caethiwed (2018 – Prifysgol Lerpwl). Rhwng 2014 a 2021, rwyf wedi gweithio fel personél addysgu ac ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg / Adran y Gwyddorau Seicolegol ym Mhrifysgol Lerpwl ac yn yr Adran Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Efrog. Yn 2021, dychwelais i fy mamwlad (Gwlad Groeg), lle bûm yn gweithio fel personél addysgu yn yr Ysgol Seicoleg yng Ngholeg Môr y Canoldir Athen ac yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Creta. Ers 2022, rwyf wedi fy lleoli ar ynys Creta lle mae gennyf swydd fel Staff Addysgu Arbennig yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Creta. Yn 2024, roedd yn anrhydedd i mi gael fy nerbyn yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd gan Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor.
Mae fy niddordebau ymchwil yn ymwneud â seiliau seicolegol ymddygiadau defnyddio sylweddau, gan ganolbwyntio ar brosesau gwybyddol. Mae gennyf ddiddordeb hefyd yng nghymwysiadau technoleg ddigidol mewn ymchwil ac ymyrraeth iechyd meddwl, yn ogystal ag anghydraddoldebau digidol (e.e. allgau digidol) ymysg poblogaethau difreintiedig (e.e. pobl sy’n profi sawl salwch meddwl).
Yn 2020, fi oedd prif ymchwilydd y project SPIDER, a ariannwyd gan Rwydwaith Closing the Gap a’r UKRI, a archwiliodd sgiliau digidol pobl sydd â salwch meddwl difrifol.