Kim Barnett
Ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig ac MRes mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Caerhirfryn, symudais oddi wrth y byd academaidd, a threuliais y degawd dilynol yn gweithio ym maes camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau iechyd meddwl gyda phoblogaethau o droseddwyr. Arweiniodd hyn at weithio yn y Deyrnas Unedig ac yn Seland Newydd yn datblygu a chyflwyno rhaglenni amrywiol o fewn carchardai merched a dynion, mentrau gangiau, y Llys Cyffuriau, gwasanaethau adferiad preswyl, a gwasanaethau seibiant. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygais ddiddordeb mewn deall achoseg camddefnyddio sylweddau, effeithiolrwydd ymyriadau triniaeth a pholisi cyffuriau. Roedd hyn yn gymhelliant i’m trawsnewidiad diweddar i fyd ymchwil. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel rhan o’r tîm ar y ‘Gwerthusiad o Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Ngharchar Berwyn: astudiaeth dull cymysg’ wrth wneud fy PhD dan arweiniad a goruchwyliaeth yr Athro Rob Poole, yr Athro Catherine Robinson, a Dr Emily Peckham