John Carden
Rwyf wedi gweithio ym maes iechyd meddwl yn Lerpwl a Gogledd Cymru. Fe wnes i gymhwyso’n nyrs iechyd meddwl yn 1993 a symud i fyw i Ogledd Cymru yn 1996. Ar hyn o bryd rwy’n cael fy nghyflogi fel Nyrs Arbenigol Clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rwy’n treulio rhan o fy amser yn y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas. Yn glinigol, rwy’n darparu asesiadau ac ymyriadau gwybyddol ac ymddygiadol i unigolion sy’n cael symptomau seicotig. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys datblygu addysg ac ymarfer nyrsys iechyd meddwl a materion yn ymwneud â thriniaethau y tu allan i’r ardal ar gyfer adsefydlu arhosiad hir mewn gofal iechyd meddwl. Cefais radd BSc mewn Astudiaethau Iechyd o Brifysgol Bangor yn 1999 ac MSc mewn CBT ar gyfer Seicosis o Brifysgol Manceinion yn 2005. Yn ddiweddar, rwyf wedi cwblhau Doethuriaeth Broffesiynol mewn Gwyddorau Iechyd. Rwyf wedi gweithio fel Cymrawd Dysgu ym Mhrifysgol Manceinion rhwng 2005 a 2010 a bûm yn gweithredu hefyd fel arholwr allanol gyda Phrifysgol Central Lancashire.
Appointments
Clinical Nurse Specialist, Betsi Cadwaladr University Health Board