• Skip to main content

Centre for Mental Health and Society

  • English
  • Cymraeg
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltiadau defnyddiol
  • Proffiliau
    • Aelodau
  • Ymchwil
    • Prosiectau Tra’n aros
    • Prosiectau a Gwblhawyd
    • Cyhoeddiadau
  • Blog
  • Cysylltiadau
  • English
  • Cymraeg

Aelod, CFMHAS

Swyddog Ymchwil

BA

Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor
View Staff Profile

j.bailey@bangor.ac.uk

03000 847082

John Bailey

Mae gan John Bailey gefndir mewn seicoleg ac mae wedi gweithio fel ymchwilydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl fforensig. Dechreuodd weithio i Brifysgol Glyndŵr ar y project Marwolaethau sy’n Gysylltiedig ag Alcohol (DIAL) yn 2010 gyda’r Athro Poole a’r Athro Robinson. Ymunodd ag Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor ym mis Gorffennaf 2012. Ers yr amser hwnnw mae wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r Athro Poole ar broblemau sy’n gysylltiedig â meddyginiaeth opioid a ragnodir ar gyfer poen cronig. Mewn cydweithrediad ag amrywiol staff gofal iechyd y GIG, datblygwyd nifer o brojectau yn ymwneud â’r canlynol

  • Nodi cleifion sy’n defnyddio meddyginiaeth opioid dos uchel tymor hir (LTHDOM) mewn gofal sylfaenol a mesur eu mynychder.
  • Ffactorau sy’n gysylltiedig â datblygu defnydd LTHDOM.
  • Profiadau cleifion ac aelodau o’u teulu o LTHDOM.
  • Effeithiau defnydd LTHDOM ar weithrediad cleifion.
  • Ymyriadau i leihau defnydd o LTHDOM.
  • Profiadau meddygon teulu o ragnodi meddyginiaeth opioid ar gyfer poen cronig.
  • Datblygu ymyriadau i hwyluso rheoli a lleihau rhagnodi meddyginiaeth opioid mewn gofal sylfaenol.

Mae John hefyd yn ymwneud ag ymchwil arall sy’n archwilio meddyginiaeth sy’n creu dibyniaeth, a rhagnodi rhesymegol yn y carchar ac ymyriadau â defnyddwyr sylweddau seicoweithredol newydd.

Gwasanaethodd John fel is-gadeirydd pwyllgor moeseg ymchwil CBLESS y Brifysgol a sefydlodd a chadeiriodd is-bwyllgor moeseg ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. Daeth yn aelod o bwyllgor moeseg ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Iechyd pan symudodd CFMHAS i’r ysgol honno yn ystod haf 2018.

Mae John yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn nifer o weithgareddau cyfnewid gwybodaeth gyda staff gofal iechyd yn y Bwrdd Iechyd Lleol.

Diddordebau Ymchwil:

Opioid drugs; chronic pain; the physiological and psychological effects of long-term opioid medication use; the lived experience of patients and their families of using high doses of opioid medication; the prescribing of opioid medication, its control and reduction; research ethics.

Goruchwyliaeth:

Lamiya Kabir Nodi – Undergraduate Internship Scheme 2023-2024 – Project:  Qualitative research in chronic health conditions

 

Bangor University
GIG Cymru/NHS Wales

Telerau Defnyddio | Polisi ar gwcis | © 2025 Centre for Mental Health and Society
Website by Hammond Design