Mae Peter Lepping yn ymwneud ag astudiaeth ymchwil sylweddol ar fesurau gorfodaeth ac ymddygiad ymosodol ar staff ym maes seiciatreg. Gwneir y gwaith hwn ar y cyd â chydweithwyr o’r European Violence in Psychiatry Research Group (EViPRG), y mae’n aelod hirsefydlog ohono. Trwy gronni llawer iawn o ddata o amrywiol wledydd Ewropeaidd, mae Peter a’i gydweithwyr o EViPRG wedi dangos bod gwahaniaethau yn y defnydd o orfodaeth yn llawer llai dibynnol ar y wlad dan sylw nag a gredwyd yn flaenorol. Mae wedi cefnogi datblygiad gwaith yn India ar orfodaeth, ynghyd â phrojectau a chynadleddau i gynyddu ymwybyddiaeth o orfodaeth yn ysbytai India, a lleihau’r defnydd ohoni. Ein gwaith oedd y sylfaen ar gyfer canllawiau ar ddefnyddio gorfodaeth mewn lleoliadau gofal iechyd yn India, a gyhoeddwyd gyda’n cydweithwyr yn India. Yn fwy lleol, mae ein gwaith wedi cael ei ddefnyddio i leihau gorfodaeth ac ymddygiad ymosodol ar staff ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn ogystal, mae gwaith Peter ar gapasiti a moeseg wedi’i ddefnyddio i wella ymwybyddiaeth o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r Ddeddf Iechyd Meddwl, a’r defnydd ohonynt, yng ngogledd Cymru.