Ceir ‘addewid y cymdeithasol’ yn ein dealltwriaeth ei fod yn ddylanwad pwerus ar ddechrau problemau iechyd meddwl ac yn eu canlyniadau. Yn ogystal, pan ymgynghorir â hwy ynglŷn â blaenoriaethau ar gyfer gofal iechyd meddwl ac ymchwil iechyd meddwl, mae defnyddwyr gwasanaeth o blaid canolbwyntio mwy ar nodau sy’n cynnwys lleihau stigma ac allgáu cymdeithasol, deall a lliniaru effaith adfydau cymdeithasol ar iechyd meddwl a hyrwyddo cysylltiadau a chefnogaeth dda mewn cymunedau. O ystyried cyd-destun cymdeithasol (trefol a gwledig) problemau iechyd meddwl, perthnasedd gweithgareddau ystyrlon pob dydd dydd i adferiad, a pheryglon ailwaelu os na rhoddir sylw i anghenion cymdeithasol, mae’n syfrdanol na fu unrhyw ymdrechion rhyngwladol i gyflwyno asesiad cymdeithasol a mesurau canlyniadau i ofal yn seiliedig ar fesur (yn unrhyw le!). Yn enwedig gan ein bod yn gwybod ers mwy na hanner canrif bod ffactorau cymdeithasol yn rhagweld canlyniadau clinigol ac nid yn unig mewn problemau iechyd meddwl, (Huxley 1978), ond hefyd mewn problemau iechyd corfforol (Querido, 1959)
Er mwyn darparu asesiad cymdeithasol a mesurau canlyniadau i ymarferwyr ac ymchwilwyr, datblygodd Peter Huxley (ar y cyd ag eraill yn rhyngwladol) y mesurau canlynol:
The Lancashire Quality of Life Profile Aseswyd datblygiad, dibynadwyedd a chysondeb mewnol y LQoLP ymhlith 404 o gleifion mewn pum canolfan Ewropeaidd (Gaite et al 2000) gyda chanlyniadau tebyg. Arweiniodd hyn at bedwar cyfieithiad (Iseldireg, Daneg, Eidaleg a Sbaeneg).
Yn seiliedig ar brofiadau a thystiolaeth empirig a gafwyd mewn astudiaethau gan ddefnyddio’r Lancashire Quality of Life Profile (LQoLP: Oliver et al 1997), datblygwyd y Manchester Short Assessment of Quality of Life (MANSA) (Priebe et al 1999) fel dull cywasgedig wedi ei addasu i asesu ansawdd bywyd. Rhoddir sgoriau goddrychol ym mhob parth bywyd ar y raddfa saith pwynt Delighted – Terrible a ymddangosodd gyntaf mewn arolwg cenedlaethol o ansawdd bywyd yn UDA ac a ddefnyddiwyd gan Lehman et al (1982) yn ei gyfweliad ansawdd bywyd. Cadwyd y raddfa a’r strwythur parth yn y LQoLP a’r MANSA. Rhoddir sgoriau ar y raddfa mewn perthynas ag ansawdd bywyd cyffredinol ac mewn naw parth bywyd: teulu, bywyd cymdeithasol, gweithgaredd hamdden, sefyllfa llety/byw, cyflogaeth, cyllid, iechyd a diogelwch meddyliol a chorfforol. Ym mhob un o’r parthau, mae cwestiynau gwrthrychol yn ymwneud ag incwm, cysylltiadau teulu a ffrindiau, statws cyflogaeth, ceisio cymorth ac ati. Canfu Murphy and Cutts (2009) fod defnyddio MANSA mewn ymarfer clinigol yn gwella cysylltiadau gwaith a chynllunio gofal.
Ariannodd yr ESRC ein hastudiaeth a gynhyrchodd fesur iaith Tsieineaidd o gynhwysiant cymdeithasol (SCOPE-C) yn seiliedig ar gyfieithu ac addasu’r Social and Community Opportunities Profile (SCOPE). Ers hynny fe’i cyfieithwyd i’w ddefnyddio ym Mrasil ac yng Ngwlad Pwyl, ac mae academyddion Awstralia yn ei ystyried yn un o’r ddau fesur gorau o gynhwysiant cymdeithasol ar gyfer ymchwil ac ymarfer. SCOPE-B yw’r cyfieithiad Portiwgaleg (Brasil) o’r SCOPE-C gydag addasiadau codio i adlewyrchu amgylchiadau economaidd, amgylcheddol a diwylliannol lleol ym Mrasil.
Cyfeiriadau
Gaite L, Vasquez-Bacquero JL Arriaga A et al (2000) Quality of Life in schizophrenia: development, reliability and internal consistency of the Lancashire Quality of Life Profile – European version. British Journal of Psychiatry 177(39) s49-54
Lehman A, Ward N, Linn L. et al (1982) Chronic mental patients: the quality of life issue. Am J Psychiat.139:1271-1276
Murphy N, Cutts H. (2009) Can the introduction of a quality of life tool affect individual professional practice and the quality of care planning in a community mental health team? Journal of Psychiatric and Mental Health Nursing, 2009, 16, 941–946.
Oliver J, Huxley P, Priebe S. et al (1997) Measuring the quality of life of severely ill people using the Lancashire Quality of Life Profile. Social Psychiatry and Psychiatric Epidemiology 32:76-83.
Priebe, S., Huxley, P.J., Knight, S. and Evans, S. (1999) Application and results of the Manchester Short Assessment of Quality of Life (MANSA). International Journal of Social Psychiatry 45 (1): 7-12.