• Skip to main content

Centre for Mental Health and Society

  • English
  • Cymraeg
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltiadau defnyddiol
  • Proffiliau
    • Aelodau
  • Ymchwil
    • Prosiectau Tra’n aros
    • Prosiectau a Gwblhawyd
    • Cyhoeddiadau
  • Blog
  • Cysylltiadau
  • English
  • Cymraeg

Aelod, CFMHAS

Seiciatrydd Ymgynghorol, BCUHB
Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus, Prifysgol Cardiff
Uwch Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor

BA (Hons) Oxon, PhD, MBBS, DCH, MRCPsych

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

heidi.hales@wales.nhs.uk

03000 847086

Heidi Hales

Mae gen i hyfforddiant deuol mewn Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc a Seiciatreg Fforensig.  Mae llawer o fy ngwaith wedi canolbwyntio ar iechyd meddwl fforensig ymysg pobl ifanc, ond rwyf hefyd wedi gweithio mewn gwasanaethau Seiciatreg Fforensig Oedolion a gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.  Ar ôl gweithio fel Seiciatrydd Ymgynghorol yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Ei Mawrhydi Feltham a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Ei Mawrhydi Cookham Wood, sy’n wardiau diogel ar gyfer pobl ifanc yn St Andrews Healthcare ac Ymddiriedolaeth GIG Gorllewin Llundain, tîm CAMHS Fforensig Cymunedol Gorllewin Llundain, CEM Holloway a Gwasanaeth Fforensig Cymunedol i Oedolion Gorllewin Llundain, rwyf bellach yn canolbwyntio mwy ar Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc ac ymchwil yng ngogledd Cymru.  Rwyf wedi cwblhau PhD yn ymchwilio i effeithiau dod i gysylltiad ag ymddygiad sy’n gysylltiedig â hunanladdiad ymysg bobl ifanc mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc, ac yn 2016 roeddwn yn rhan o dîm a ariannwyd gan NHSE i gwblhau gwerthusiad gwasanaeth a chyfrifiad o’r holl bobl ifanc o Loegr mewn gofal diogel.  Fy mhrif ddiddordeb ymchwil yw sut i werthuso a gwella iechyd ataliol, ymyrraeth gynnar, triniaeth a gofal ar gyfer pobl ifanc sydd mewn cysylltiad â’r gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid oherwydd anghenion emosiynol, iechyd meddwl neu niwroddatblygiadol, a sut y gallwn ddysgu o systemau gofal mewn gwahanol awdurdodaethau drwy gydweithrediad ymchwil rhyngwladol.

Bangor University
GIG Cymru/NHS Wales

Telerau Defnyddio | Polisi ar gwcis | © 2025 Centre for Mental Health and Society
Website by Hammond Design