• Skip to main content

Centre for Mental Health and Society

  • English
  • Cymraeg
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltiadau defnyddiol
  • Proffiliau
    • Aelodau
  • Ymchwil
    • Prosiectau Tra’n aros
    • Prosiectau a Gwblhawyd
    • Cyhoeddiadau
  • Blog
  • Cysylltiadau
  • English
  • Cymraeg

Amdanom ni

Mae CFMHAS yn dod â gwyddonwyr cymdeithasol, clinigol a biofeddygol at ei gilydd. Ei chyd-gyfarwyddwyr yw’r Athro Rob Poole a Emily Peckham. Mae gan ein hymchwilwyr gefndiroedd proffesiynol amrywiol, gan gynnwys polisi cymdeithasol, seiciatreg, gwaith cymdeithasol, seicoleg, cymdeithaseg, fferylliaeth, nyrsio, deintyddiaeth a meddygaeth.

Sefydlwyd CFMHAS yn 2012 gan Catherine Robinson a Rob Poole, gyda chymorth grant gan gronfeydd elusennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydym wedi ehangu’n gyflym ers hynny. CFMHAS ddatblygodd y South Asia Self Harm Initiative (SASHI), a gyllidir gan UKRI/GCRF. Fe’i harweinir gan Catherine Robinson fel Prif Ymchwilydd. Mae’r Athro Robinson wedi symud i Brifysgol Manceinion lle mae’n Gyfarwyddwyr uned ymchwil a gyllidir gan NIHR. Rob Poole sy’n arwain elfen Prifysgol Bangor o SASHI. Mae Catherine Robinson parhau i ymwneud yn agos â CFMHAS.

Mae CFMHAS yn canolbwyntio ar ymchwil sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwella lles meddyliol y cyhoedd yn gyffredinol neu wella gofal iechyd meddwl. Rydym yn ymchwilio i broblemau cymhleth y gellir ymdrin â hwy’n fwy effeithiol drwy ddefnyddio cyfuniad o ddulliau ansoddol a meintiol.

Mae gennym gynlluniau cydweithio â chymunedau ymchwil gwyddorau cymdeithas, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl ledled Cymru a’r DU, gyda chysylltiadau cryf ag India, Pacistan, Sri Lanka, Nepal, Brasil a Hong Kong.

Mae ein diddordebau’n cynnwys:

Hunan-niweidio, anaf nad yw’n ddamweiniol a hunanladdiad
  • Meddyginiaeth opioid rhagnodedig a poen cronig
  • Gofal cymdeithasol, gofalwyr, asesiadau cymdeithasol a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd
  • Salwch meddwl difrifol
  • Moeseg, hawliau dynol a theori gymdeithasol, Tystiolaeth sy’n cyd-destunoli
  • Cyd-destunoli tystiolaeth
  • Ymchwil Iechyd Troseddwyr
  • Iechyd digidol
Bangor University
GIG Cymru/NHS Wales

Telerau Defnyddio | Polisi ar gwcis | © 2025 Centre for Mental Health and Society
Website by Hammond Design