Gan ddefnyddio technoleg adolygiadau systematig, rydym wedi datblygu dull newydd o brofi perthnasedd clinigol canfyddiadau ymchwil. I gyflawni hyn, gwnaethom ddefnyddio cyfieithiadau o symptomau seicometrig (megis Graddfa Sgorio Iselder Hamilton neu Raddfa Symptomau Cadarnhaol a Negyddol) i sgoriau clinigol fel y raddfa Argraffiadau Byd-eang Clinigol. Mae hyn yn caniatáu ail-ddadansoddi data i hwyluso gwerthusiad mwy ystyrlon o effaith triniaeth ar les cleifion, er enghraifft, therapi gwybyddol-ymddygiadol(gweler yma). Rydym wedi gweithio gydag ymchwilwyr enwog fel yr Athro Richard Whittington yn Lerpwl a’r Athro Stefan Leucht ym Munich yn ogystal â chydweithwyr cenedlaethol a rhyngwladol eraill i brofi perthnasedd clinigol y data ar effeithiolrwydd amrywiaeth triniaethau ym maes seiciatreg.
Lepping P, Whittington R, Sambhi RS, Lane S, Poole R, Leucht S, Cuijpers P, McCabe R, Waheed W (2017) Clinical relevance of findings in trials of CBT for depression. Eur Psychiatry. 45: 207-211
Masood B, Lepping P, Romanov P, Poole R (2018) Treatment of alcohol induced psychotic disorder (alcoholic hallucinosis) – a systematic review. Alcohol & Alcoholism 53, 3, 259–267