Defnydd a ganiateir
Caiff ymwelwyr â gwefan y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas (y wefan hon) ganiatâd i weld deunydd cyhoeddedig (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Wrth ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i gael eich rheoli gan y telerau defnyddio.
Er y gellir cyrraedd at gynnwys, ei lawr lwytho a’i ddefnyddio at bwrpas personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil preifat, astudio neu ei ddefnyddio’n fewnol); ni chaiff ymwelwyr atgynhyrchu nac ail-gyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon heb ganiatâd y wefan/perchennog yr hawlfraint.
Mae’r delweddau, logos a graffeg a ddefnyddir ar y safle hwn yn eiddo i’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas a/neu drydydd parti. Ni ddylid eu defnyddio heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint.
Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy’n gysylltiedig â’r wefan hon yn perthyn i’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas a, lle bo’n berthnasol, i gysylltiadau trydydd parti.
Gwybodaeth bersonol
Pan rydych yn cyflwyno’n wirfoddol data y gellir eich adnabod ohono ar y wefan hon, defnyddir y wybodaeth yn unig i ateb i’ch ymholiadau ac i’r diben y bwriadwyd. Nid yw’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr y wefan gyda thrydydd parti.
Diogelwch rhag firysau
Rydym yn cymryd gofal i sicrhau bod deunydd ar y wefan hon yn rhydd o firysau. Ond rydym yn argymell eich bod yn rhedeg rhaglen wrth firws ar bob deunydd caiff ei lawr lwytho o’r rhyngrwyd. Ni all y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data na system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.
Ymwadiad
Rydym yn ceisio sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Ond rhoddir y cynnwys ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac rydych yn ei ddefnyddio ar eich menter eich hun. Ni fydd y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn atebol am ddifrod neu golled o unrhyw weithred neu ddiffyg sy’n deillio o ddefnyddio’r wybodaeth ar y wefan hon.
Cysylltiadau allanol
Nid yw’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi’r farn a fynegir ynddynt nac yn gwarantu cywirdeb y wybodaeth a ddarperir ganddynt. Rhoddir unrhyw gyfeiriadau gan y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas at gysylltiadau a gwefannau allanol fel arwydd o gwrteisi. Ni ddylai’r defnyddiwr gymryd bod unrhyw gyfeiriadau trwy gysylltiadau o’r fath yn golygu bod y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn cymeradwyo’r gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau allanol, unigolion neu ddarparwyr eraill. Dylai’r defnyddiwr fodloni ei hun bod y gwasanaethau a ddarperir gan y cwmni allanol, unigolyn neu ddarparwr yn cyflawni’n briodol anghenion a gofynion y defnyddiwr.
Nid yw’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd am wasanaethau a ddarperir gan gwmnïau allanol, unigolion na darparwyr eraill. Hefyd, nid yw’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn derbyn cyfrifoldeb, nac atebolrwydd, am gynnwys, neu wybodaeth ar y wefan gan gwmnïau allanol, unigolion neu ddarparwyr eraill nac am unrhyw niwed a achosir neu sy’n deillio ohonynt.
Ni all y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes ganddynt unrhyw reolaeth os yw’r tudalennau cysylltiedig ar gael neu os newidir cyfeiriadau’r gwefannau.
Mae’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn cadw’r hawl i wrthod neu ddileu cysylltiadau ag unrhyw wefan.
Nodau masnach
Mae pob nod masnach ar y safle hwn yn parhau’n eiddo eu perchnogion ac fe’u defnyddir at ddibenion adnabod yn unig.
Newidiadau at y dyfodol
Bydd unrhyw newidiadau dilynol i’r telerau hyn ar gael ar y wefan hon.