• Skip to main content

Centre for Mental Health and Society

  • English
  • Cymraeg
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltiadau defnyddiol
  • Proffiliau
    • Aelodau
  • Ymchwil
    • Prosiectau Tra’n aros
    • Prosiectau a Gwblhawyd
    • Cyhoeddiadau
  • Blog
  • Cysylltiadau
  • English
  • Cymraeg

Aelod Cysylltiol, CFMHAS

Athro Astudiaethau Alcohol, Prifysgol Wrecsam

Prifysgol Wrecsam

w.livingston@glyndwr.ac.uk

01978 293 471

Wulf Livingston

Rwyf wedi bod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig am y pum mlynedd ar hugain diwethaf. Ar hyn o bryd rwyf yn Ddarllenydd mewn Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Glyndŵr, ar ôl ymuno â’r sefydliad yn 2010. Cyn hynny, cyfunais ddarlithio rhan-amser ym Mhrifysgol Bangor gyda rheoli gwasanaethau alcohol a chyffuriau yn y sectorau statudol (cyfiawnder troseddol) a gwirfoddol. Yn ystod fy mlynyddoedd cynnar o ymarfer bûm mewn nifer o swyddi’n ymwneud ag alcohol, cyffuriau, iechyd meddwl a digartrefedd.

Rwy’n ymchwilydd gweithredol ac wedi cyhoeddi nifer o weithiau. Prif feysydd fy niddordeb ymchwil yw; alcohol a chyffuriau eraill, gweithredu polisi, adferiad a chynnwys defnyddwyr gwasanaeth; a defnydd gweithwyr cymdeithasol o wybodaeth wrth ymarfer. Ynghyd ag ystod o gynnyrch traddodiadol a adolygwyd gan gyfoedion, mae gennyf ddiddordeb mewn troi ymchwil yn ymarfer a phrojectau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gymuned.

Ar hyn o bryd rwy’n ymwneud â nifer o brojectau ymchwil i lywodraethau Cymru a’r Alban o ran gwerthuso effaith pennu isafswm ar gyfer pris unedau alcohol.

Rwy’n weithgar gyda chymuned adferiad Gogledd Cymru, ac yn gwirfoddoli gyda chefnogi grwpiau cyfoedion annibynnol nad ydynt yn cael eu hariannu. Rwy’n parhau i fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Ar hyn o bryd rwyf yn gadeirydd grŵp diddordeb arbenigol camddefnyddio sylweddau Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, ac mae gennyf hanes hir o gadeirio / cefnogi grwpiau elusennol y trydydd sector / cyrff anllywodraethol.

Mae fy amser hamdden yn troi o gwmpas teulu, bwyd, rhedeg ar fynydd-dir, beicio, mynyddoedd, cerddoriaeth fyw a chwarae bridge.

Bangor University
GIG Cymru/NHS Wales

Telerau Defnyddio | Polisi ar gwcis | © 2025 Centre for Mental Health and Society
Website by Hammond Design