• Skip to main content

Centre for Mental Health and Society

  • English
  • Cymraeg
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltiadau defnyddiol
  • Proffiliau
    • Aelodau
    • Aelodau Cyswllt
  • Ymchwil
    • Prosiectau Tra’n aros
    • Prosiectau a Gwblhawyd
    • Cyhoeddiadau
  • Blog
  • Cysylltiadau
  • English
  • Cymraeg

Aelod, CFMHAS

Project Manager, School of Healthcare Sciences

Prifysgol Bangor
View Staff Profile

s.j.williams@bangor.ac.uk

01248 383 137

Seimon Williams

Ymunais yn ffurfiol â thîm CfMHaS fel Rheolwr Gweithredol ar broject Menter Hunan-niweidio De Asia (SASHI) yn 2017. Caiff y project pedair blynedd hwn ei ariannu gan yr MRC GCRF. Mae’n broject ar y cyd rhwng sefydliadau yn Ne Asia a Phrydain, sy’n ceisio helpu i gael ymatebion effeithiol i hunan-niwed bwriadol a hunan-laddiad yn Ne Asia drwy adeiladu seilwaith ac arbenigedd ymchwil yn India a Phacistan. Bydd hyn yn caniatáu pob gwlad i adeiladu corff o dystiolaeth i hwyluso datblygiad ymyriadau effeithiol a diwylliannol berthnasol, yn gymdeithasol a meddygol.

Rwyf wedi gweithio mewn swyddi amrywiol yn y sector addysg a pholisi cyhoeddus ers dros 20 mlynedd, yn gyntaf mewn ymchwil addysgol yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Addysgol (NFER) ac yna fel swyddog polisi ar gyfer addysg, hyfforddiant a diwylliant yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. (WLGA). O’r fan honno, symudais i ogledd Cymru i reoli project y broses ad-drefnu ysgolion yng Nghyngor Gwynedd. Ymunais â Phrifysgol Bangor yn 2011, yn gyntaf yn cefnogi academyddion i ddatblygu a chostio projectau ymchwil, ac yn olaf canolbwyntio ar y project SASHI.

Bangor University
GIG Cymru/NHS Wales

Telerau Defnyddio | Polisi ar gwcis | © 2021 Centre for Mental Health and Society
Website by Hammond Design