Amanda David
Ymunodd â Thîm CFMHAS fel Gweinyddwr y Ganolfan ym mis Mawrth 2016 ac yn Gynorthwywr Personol i’r Athro Rob Poole. Daeth ag amrywiaeth helaeth o brofiad gweinyddol a phrofiad bywyd gyda hi o’i gwaith blaenorol ym Mhrydain a thramor.
Ymunodd â’r GIG yn ôl yn 2003 yn Ne Cymru, ac ar ôl symud i ogledd Cymru yn 2006, gweithiodd fel Gweinyddwr ar draws Timau Plant ac Oedolion i’r Gwasanaeth Seicoleg Glinigol Anableddau Dysgu.
Mae’n parhau i adeiladu a gwella ar ei sgiliau gweinyddol, a’i chysylltiadau gwaith gydag adrannau a sefydliadau eraill ledled Prydain a thu hwnt.