Mae Rob Poole wedi bod â diddordeb mewn rhagnodi rhesymegol a defnyddio sylweddau ers blynyddoedd lawer. Dros y deng mlynedd diwethaf, yng nghyd-destun CFMHAS, mae arbenigedd yn y ddau faes wedi dod ynghyd mewn rhaglen bwysig o arloesi clinigol ac ymchwil i’r defnydd o feddyginiaeth opioid dos uchel wrth drin poen cronig. Mae Rob Poole wedi gweithio’n agos gyda’r tîm rheoli poen yn Ysbyty Wrecsam Maelor, ac yn arbennig gyda Lucy Jones, nyrs glinigol arbenigol mewn rheoli poen, i ddatblygu ymatebion effeithiol i gleifion sy’n dioddef sgîl-effeithiau difrifol a dim ond ychydig o ryddhad o’u poen gyda thriniaeth trwy opioidau dos uchel. Maent wedi datblygu ymyriad sy’n seicogymdeithasol yn bennaf, gyda rhai dulliau newydd o ddad-ragnodi. Mae llawer o gleifion yn ei chael hi’n anodd iawn lleihau dos o feddyginiaeth opioid yn raddol. I gleifion a ddewiswyd yn ofalus ac sy’n cydsynio, maent wedi datblygu rhaglen o leihau dos cleifion allanol yn gyflym, sy’n aml yn cynnwys disodli methadon dos isel sefydlog (a ragnodir i leddfu poen, nid fel strategaeth i leihau dibyniaeth ar gyffuriau).
Er y bu gwrthwynebiad sefydliadol a phroffesiynol sylweddol i’r gwaith hwn, mae’n parhau ac rydym yn gwerthuso’r ymyriad. Mae gennym hefyd grŵp o staff clinigol ac ymchwilwyr sy’n gweithio ar gyfres o brojectau cysylltiedig, gan edrych ar nifer yr achosion mewn cymuned, patrymau defnydd opioidiau rhagnodedig dos uchel, effeithiau gwybyddol opioidau dos uchel, profiad cleifion a gofalwyr o ddefnyddio a gwerthuso opioidau dos uchel a gwerthuso rhaglen o reoli meddyginiaethau seicoweithredol mewn carchar. Rydym hefyd yn datblygu gwaith gyda rhagnodwyr, gan gynnwys ymyriad i helpu meddygon teulu i osgoi rhagnodi opioidau dos uchel. John Bailey sy’n arwain llawer o’r gwaith hwn.