Mae’r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas (CFMHAS) yn ganolfan ymchwil seiliedig ar ddulliau. Rydym yn gwneud ymchwil sy’n uniongyrchol berthnasol i les pobl â phroblemau iechyd meddwl, eu teuluoedd a’u gofalwyr, ac i iechyd meddwl yn gyffredinol.
Mae’r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn fenter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Mae ganddi swyddfeydd yn Wrecsam a Bangor.
Mae ein gwaith ymchwil yn waith amlddisgyblaethol, ac yn dod ag ymarferwyr ac ymchwilwyr sydd â chefndir ym meysydd gofal cymdeithas, seicoleg a’r gwyddorau meddygol at ei gilydd. Rydym yn rhoi pwyslais penodol ar ymchwil gyda dulliau cymysg, sy’n cyfuno dulliau ansoddol a meintiol i fynd i’r afael â phroblemau cymhleth.
Cefnogir y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas gan grŵp llywio.
Ein prif ddiddordebau yw:
- Gofal cymdeithasol a gofalwyr
- Camddefnyddio sylweddau, yn arbennig alcohol a meddyginiaeth ar bresgripsiwn a diagnosis deuol
- Gofal a thriniaeth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl parhaus
- Dulliau newydd o gyfuno ymchwil
- Creadigrwydd a salwch meddwl
- Moeseg, gan gynnwys ysbrydolrwydd a ffiniau proffesiynol, gorfodaeth a thrais mewn sefydliadau iechyd
- Addysg a hyfforddiant proffesiynol
/su_column]