Cyhoeddwyd erthygl olygyddol gan Rob Poole yn y British Journal of Psychiatry yn 2003 am greadigrwydd, anhwylder meddwl a cherddoriaeth a gafodd sylw eang. Arweiniodd hyn at wahoddiadau niferus i siarad, ac yn y pen draw at ddiddordeb yn y berthynas rhwng creadigrwydd a salwch meddwl yn gyffredinol. Gweithiodd gyda Karen Heald, Susan Liggett a Catherine Robinson ar y project In-Between-Ness, ac mae wedi ffurfio grwpiau sydd wedi gwneud ceisiadau am arian i ymchwilio i iechyd meddwl cerddorion a phynciau cysylltiedig. Er nad oeddent yn llwyddiannus, arweiniodd y ceisiadau hyn at ffurfio cysylltiadau ag eraill sydd รข diddordeb yn y maes fel Jim Aitcheson, cyfansoddwr sy’n byw yng Nghernyw, a’r Leeds Music Hub.
Poole R. (2003) Kind of Blue: creativity, mental disorder and jazz, British Journal of Psychiatry, 183, 193-194.